Newsletter

CYLCHLYTHYR

Croeso i gylchlythyr cyntaf Tetrim Teas. 

Diolch yn fawr iawn am eich diddordeb yn ein busnes te teuluol yn Nhrimsaran.
Fel cwmni nid-er-elw, rydym yn gobeithio ymgysylltu â'n cwsmeriaid a'n cefnogwyr trwy gydol ein taith. Felly, rhowch wybod i ni os oes unrhyw beth yr hoffech wybod mwy amdano. 

 

Trosolwg cyflym o sut y gwnaethom gyrraedd mis Hydref 2023: 

Fe wnaethom gofrestru Tetrim Teas ym mis Ionawr 2021, ac roeddem yn ffodus i dderbyn cyllid Datgarboneiddio cynnar gan Lywodraeth Cymru i ymchwilio i gynhwysion a dewis planhigion o ffynonellau lleol sydd â manteision iechyd (i gadw ein 'milltiroedd bwyd' yn isel ac i gadw elw ym mhocedi tyfwyr lleol). Diolch i Brifysgol Aberystwyth, ArloesiAber a Bic Innovation am wneud yr holl waith clyfar i ni!

Dyma sut y cawsom wybod am fudd gwreiddyn rhiwbob, mae ein blog isod yn dweud mwy ynglŷn â pham y gwnaethom ddewis y cynhwysyn anhygoel hwn. Trwy'r gwaith hwn y gwnaethom hefyd ddarganfod Dartmoor Estate Tea. Unwaith eto, gallwch ddarllen isod pam a sut y daethom i weithio mewn partneriaeth â'r tyfwr te arloesol hwn yn y DU.

Roeddem hefyd yn ffodus o fod wedi dod o hyd i gwmni te lleol cefnogol arall yng Nghaerfyrddin - Tea Traders (a bydd gennym ddiwrnod agored yn eu siop ar 25 Hydref 2023 rhwng 11-2pm – galwch heibio i ddweud helo os ydych yn yr ardal!).

Ar ôl blynyddoedd o ymchwil, treialon clinigol, datblygu'r busnes a'r brand (diolch i Kutchibok), gyda chefnogaeth llawer o unigolion a sefydliadau (y sonnir am rai ohonynt isod); o'r diwedd, dechreuon ni werthu ein cyfuniad cyntaf: Te Gwreiddiau Rhiwbob, ddiwedd mis Awst 2023.

Nawr rydym ar waith, rydym hefyd wedi sefydlu clwb te lleol o'r enw Tŷ Te Trimsaran (diolch i gyllid gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU). Galwch heibio Canolfan Gymunedol Trimsaran unrhyw ddydd Iau (1-3pm) am de rhiwbob a chyfle i sgwrsio neu ymarfer eich Cymraeg. Ac yn ddiweddar, rydym wedi dechrau gwerthu mewn marchnadoedd lleol ac wedi archebu ein lle mewn sawl Ffair Nadolig.

Rydym hefyd yn datblygu'r cyfuniad iechyd nesaf a fydd yn de Madarch Pigau Barfog; sy'n gysylltiedig â gwell cof, lefelau iselder ysbryd, iechyd meddwl a hyd yn oed eich amddiffyn rhag dementia. 

Mae'n wych bod allan o'r diwedd, rydym wrth ein bodd yn cael eich adborth ar y te. Edrychwn ymlaen at eich gweld yn rhywle yn fuan.  

Diolch yn far iawn! 

Mari, Elis, Helen a Steffan (Tim Tetrim Teas)

 

PAM GWRAIDD RIWBOB?

Pan oedd gennym y syniad o ddatblygu te iechyd Cymraeg, roeddwn yn seiliedig ar fy mhrofiad o werthu te iechyd yn fy nghanolfan iechyd rai blynyddoedd yn ôl. Yn dilyn Brexit a'r diffyg cymhorthdal i ffermwyr, meddyliem gallech ddatblygu de sy'n gallu helpu i wella iechyd a lles pobl, wedi'i wneud o ddeunyddiau a dyfwyd yn lleol, yna gallai hefyd gefnogi ffermwyr a thyfwyr lleol. Darllen mwy>>

TE DARTMOOR

Roeddwn eisiau te gwyrdd o ansawdd, o'r DU yn ddelfrydol, ac ar ôl sawl sgwrs ac ymchwil, dewisais de Dartmoor. Mae'r te yn uchel mewn polyffenol ac antiocsidantau, ac mae ganddo flas llyfn ac arogl gyfeillgar sy'n cyd-fynd â rhywbarb a'r holl bethau eraill yn y gymysgedd. Darllen mwy>>

PECYNNU

I sicrhau bod ein holl gynnyrch yn foesegol a chynaliadwy, gwnaethom ymchwil i becynnau o'r bagiau te i'r bocsys, dysgwch fwy am sut yr ydym yn osgoi plastigau. Clicio yma

TEA TRADERS

Buom yn dathlu ein partneriaeth gyda Tea Traders yn Caerfyrddin tua diwedd mis diwethaf. Mae Tea Traders wedi helpu gyda rhai o'n cynnyrch, felly rydym yn ddiolchgar am y cyfle i allu gwerthu ein te yn eu siop.

 

Gallwch ddarllen popeth am y manteision iechyd a'r treialon clinigol yma - a sut mae pobl wedi canfod y gall te gwreiddiau rhiwbob helpu gyda stumog chwyddedig a threulio, yn ogystal â'r manteision cudd o ostwng colesterol drwg.

 Bydd ein cylchlythyr nesaf yn cynnwys rhagor o wybodaeth am ein cyfuniad Madarch Pigau Barfog newydd, ond cysylltwch unrhyw bryd os hoffech chi wybod mwy.

 I ymweld â'n gwefan, cliciwch yma.

 Hoffem ddiolch i Crish Davies yng Nghydweli, Cywain, Rhun ap Iorwerth a Hooton's ar Ynys Môn, Insynch Digital, Canolfan Gymunedol Trimsaran, Robert Firth, Cyngor Sir Gâr, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, pawb a gymerodd ran yn y treial clinigol, a chymaint mwy o bobl wych.


Post hŷn Post mwy newydd