Dim Carbon | Busnes Moesegol | Cynaliadwyedd | Gwerth Cymdeithasol | Iechyd a Lles | Dielw
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yn diffinio Datblygu Cynaliadwy fel: "Y broses o wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru drwy gymryd camau gweithredu, yn unol ag egwyddor datblygu cynaliadwy, gyda'r nod o gyflawni'r nodau llesiant." Dyma'r sylfaen y mae Tetrim Teas wedi'i hadeiladu arni. O hyn ymlaen byddwn yn: 1.Datblygu'r cynnyrch gorau y gallwn ar bob cam o'n proses. 2.Nodi cadwyni cyflenwi moesegol a lleol. 3.Gweithio gyda; ac annog ein partneriaid a'n cyflenwyr i weithio gyda; y rheini sydd â rhwystrau i gyflogaeth. 4.Datblygu cynhyrchion moesegol, naturiol y credwn ynddynt yn wirioneddol. 5.Cael gwyddoniaeth a data y tu ôl i bopeth a wnawn. 6.Parhau i arloesi ar draws ein hystod cynnyrch, pecynnu, cadwyn gyflenwi a strwythur busnes. 7.Anelu at ddatblygu busnes cyfan di-garbon. 8.Cyfrannu'n gadarnhaol at lesiant cyffredinol.