Ein Stori

Tetrim Teas

Sefydlwyd Tetrim Teas fel cwmni dielw yn 2021, gyda'r nod o weithio gyda'r gymuned a tyfwr yng Ngymru i ddatblygu cynnyrch newydd.  Rydym yn fusnes teuluol gyda Mari yn rheoli'r busnes, ei nai Steffan yn cymysgu'r te, gyda chefnogaeth busnes a chymunedol gan Kelly a Helen.  Ac yn fwy diweddar, tîm ymroddedig o chwe thyfwr madarch yn Sir Gaerfyrddin, Gwynedd a Cheredigion.
Daeth y syniad am Tetrim Teas o brofiad blaenorol Mari'n gwerthu te Tsieineaidd yn ei sba iechyd yng Nghaerdydd, penderfynodd sefydlu cwmni cynaliadwy yng Nghymru gyda model busnes moesegol gan ddefnyddio cynhwysion lleol i adeiladu cymuned leol gryfach yn organig.

Y Blynyddoedd Diwethaf

Ar ôl penderfynu sefydlu cwmni te, roedd Mari am ei adeiladu ar sylfeini moesegol a chynaliadwy. Bu'n ymchwilio i gynhwysion lleol mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth, AberInnovation a BicInnovation.
"Fel rhan o'r gwaith yma fe wnaethon ni ddarganfod busnes teuluol ar Ynys Môn oedd yn tyfu riwbob, lle mae llawer o'r gwraidd yn cael ei daflu bob blwyddyn. Fe wnaethon ni ddewis y cyflenwad lleol hwn o wreiddyn rhubarb fel y prif gynhwysyn ar gyfer ein cyfuniad te cyntaf. O ganlyniad, mae hyn yn dod ag ôl troed carbon y cynnyrch i lawr yn sylweddol."
Yn ogystal, mae'r te wedi'i gymysgu â te gwyrdd o safon o de ystâd Dartmoor, mae Tetrim yn parhau i ymchwilio i fwy o gyflenwyr lleol ar gyfer yr holl gynhwysion, ac i adeiladu cadwyn gyflenwi leol ar gyfer pob agwedd ar y busnes.

Cymuned

Mae Tetrim Teas wedi sefydlu nifer o brosiectau cymunedol.
Tŷ Te Trimsaran Tea Hub yw cyfarfod wythnosol a lle i bobl ddod at ei gilydd dros baned o de.
Cynnig prosiect tyfu planhigion te yn ysgol y pentref wedi cynnwys y Pwyllgor Eco yn tyfu planhigion te a byddant yn gwneud eu teiau blasus eu hunain pan fydd y planhigion yn barod.
Mae popups te wedi'u trefnu i brofi blasau a chynlluniau newydd gyda gwahanol gymunedau, gyda'r nod o gynnal digwyddiadau cymdeithasol a hysbysu datblygiad te yn y dyfodol.
    Ymweld a'n Siop Te